Y GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR GYMUNEDAU DIWYDIANNOL

 

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5 TACHWEDD 2014 YN NHŶ HYWEL, BAE CAERDYDD

 

1.                     Yn bresennol

 

David Rees AC, Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Jeff Cuthbert AC, Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Keith Davies AC, Cynulliad Cenedlaethol Cymru; y Cynghorydd Jane Ward, Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; Peter Slater, Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru; Ray Pearce, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr; Connie Milton, Swyddfa Simon Thomas AC; Debbie Pike, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; Nicola Somerville, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent; Helen Cunningham, Swyddfa Jenny Rathbone AC; Angharad Thomas, Swyddfa David Rees AC; yr Athro Steve Fothergill, Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru a Phrifysgol Sheffield Hallam.

 

2.         Croeso

 

            Croesawodd David Rees bawb i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol. Prif bwrpas y cyfarfod oedd ystyried yr ymchwil ddiweddaraf a gomisiynwyd gan Gynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru ar effaith diwygio lles ar y Cymoedd.

 

3.         Ethol y Cadeirydd

 

            Cafodd David Rees AC ei ethol yn gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer 2014/2015.

 

4.         Ethol yr Ysgrifennydd

 

            Cafodd Peter Slater, Cyfarwyddwr Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru, ei ethol yn ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol.

 

5.         Adroddiad Ariannol

 

            Cadarnhaodd Peter Slater y byddai Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru yn gyfrifol am dreuliau'r Grŵp Trawsbleidiol ac y byddai datganiad o wariant yn cael ei gyflwyno ar ddiwedd 2014/2015.

 

6.         Effaith Diwygio Lles ar y Cymoedd: yr Athro Steve Fothergill, Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru a Phrifysgol Sheffield Hallam

 

            Cafwyd cyflwyniad ar y gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Gynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru ar effaith diwygio lles ar y Cymoedd yn ne Cymru. Mae'r ymchwil yn dilyn yr astudiaeth a wnaed yn 2013, gan ddadansoddi'r sefyllfa fesul ward etholiadol a chan fynd i'r afael â'r sgil-effeithiau o ran busnesau a swyddi.

 

            Yn ôl yr Athro Fothergill, roedd yr holl awdurdodau yng Nghymru a gafodd eu taro galetaf, o ran y golled fesul oedolyn oedran gweithio, yn y Cymoedd. Tynnodd adroddiad 2013 ac amcangyfrifon Llywodraeth Cymru sylw at y patrwm hwn. Amcangyfrifir mai Merthyr Tudful a ddioddefodd yr effaith fwyaf, gyda cholled flynyddol o £720 fesul oedolyn oedran gweithio. Yna daeth Blaenau Gwent (£700), Castell-nedd Port Talbot (£690), Rhondda Cynon Taf (£670), Caerffili (£640), Pen-y-bont (£600) a Thorfaen (£590). Yn ystod y cyfarfod, clywodd aelodau'r Grŵp mai'r tair ward gyda'r colledion ariannol uchaf oedd Maerdy (Rhondda Cynon Taf, £1050 am oedolyn oedran gwaith), Pen-y-Waun (Rhondda Cynon Taf, £1040) a Gurnos (Merthyr Tudful, £1010).

 

            Disgrifiodd yr Athro Fothergill sut y bydd cyfanswm y golled i'r Cymoedd yn gyfystyr â cholli £430 miliwn y flwyddyn pan fydd y diwygiadau'n dod i rym yn llawn, gyda'r golled ariannol fwyaf o £150 miliwn yn cael ei phriodoli i'r newidiadau mewn budd-daliadau analluogrwydd. O ran colledion ariannol, mae'r prif ffynonellau eraill yn cynnwys gostyngiadau mewn Credydau Treth a'r ffaith fod y prif fudd-daliadau oedran gweithio wedi'u huwchraddio ar lefel sy'n is na lefel chwyddiant. Yn y Cymoedd, ac ar draws Cymru gyfan, bydd y broses ddiwygio lles yn cael gwared ar gyfanswm o arian bob blwyddyn sydd bron i bedair gwaith yn fwy na chyfanswm y cymorth rhanbarthol a geir gan yr UE.

 

            Gan droi at ganlyniadau economaidd y gostyngiad mewn pŵer gwario a fydd yn deillio o'r diwygiadau, mae'r ymchwil ar gyfer Cymru gyfan yn dangos y bydd incwm gwario aelwydydd yn cael ei leihau tua 2.4%. Yn y Cymoedd, mae'r gostyngiad yn debygol o fod tua 3%. Amcangyfrifir y gallai'r sefyllfa hon arwain at golli tua 3,000 o swyddi yn y sector gwasanaethau i ddefnyddwyr.

 

            Casgliadau. Cwestiynodd yr Athro Fothergill a fyddai'r diwygiadau yn arwain at gyfraddau cyflogaeth uwch, o ystyried gwendid cymharol economïau lleol y Cymoedd a'r ffaith fod cronfa sylweddol o lafur di-waith yn bodoli eisoes. Yn hytrach, cynigiodd y byddai creu 100,000 o swyddi, yn seiliedig ar gyfradd twf economaidd o 3.5% y flwyddyn, yn cyflawni'r un canlyniad, sef arbedion gwerth £1 biliwn y flwyddyn i'r Trysorlys. Aeth i'r afael â sut y gellid cyflawni'r twf hwn drwy gymryd camau fel cynnal cyfradd gyfnewid gystadleuol a chyfraddau cyfnewid isel, datblygu sgiliau, ail-gydbwyso'r economi tuag at y rhanbarthau a diwydiant, a chyflwyno rhaglenni creu swyddi fel Twf Swyddi Cymru.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Jane Ward fod Owen Smith AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gymru, hefyd wedi cael cyfarfod gyda chynrychiolwyr y Gynghrair yn San Steffan ar 4 Tachwedd 2014 i drafod yr adroddiad. Ystyriwyd fod y casgliadau yn berthnasol iawn i'r ddadl barhaus sy'n mynd rhagddi yn y Senedd ar ddiwygio lles.

 

            Yna, cafwyd trafodaeth eang ar y prif faterion a oedd yn codi o'r adroddiad. Yn ystod y drafodaeth, rhybuddiodd Jeff Cuthbert AC aelodau'r grŵp y byddai lefelau sylweddol o dlodi yn dychwelyd i gymunedau tlotaf Cymru. Cafodd aelodau'r grŵp eu hatgoffa hefyd am effaith yr hyn a ystyriwyd yn bolisi cosbau fwyfwy ymosodol sy'n cael ei weithredu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'r rhai sy'n cymryd rhan y Rhaglen Waith ddwywaith yn fwy tebygol o gael sancsiynau am beidio â chadw at yr amodau. Ystyriwyd hefyd fod y sefyllfa'n gwaethygu o ganlyniad i effaith y wasgfa barhaus ar wariant cyhoeddus a'r effaith ar wasanaethau a swyddi.

 

Ar gais Keith Davies AC, cytunodd yr Athro Fothergill hefyd i ddarparu set gyflawn o ddata ar gyfer ardal Llanelli, o gofio nad oedd y data hyn wedi'u cynnwys yn yr adroddiad gwreiddiol, a oedd yn canolbwyntio ar wardiau yn y Cymoedd.

 

Wrth gloi'r cyfarfod, diolchodd David Rees i'r Athro Fothergill am ei waith ymchwil a'i gyflwyniad, a galwodd ar Aelodau'r Cynulliad a'r Gynghrair i sicrhau bod yr adroddiad yn cael ei ddosbarthu o fewn Llywodraeth Cymru a'r gymuned ehangach.

 

 

Peter Slater

 

25 Tachwedd 2014